A Visit


A Visit

Mewn cydweithrediad â Clean Break, cyflwyna Papertrail drama rymus Siân Owen, A Visit.

Mae’n ddrama am drosedd, cyfiawnder a gofal, sy’n holi cwestiynau am bwy sydd i ofalu am y plant pan gaiff mam ei charcharu.

Mae Angharad, merch 15 mlwydd oed, yn ymweld â'i mam, Ffion, mewn carchardy sy'n bell iawn o'u cartref yn Aberdâr. Mae ei modryb, Carys, wedi bod yn gwneud ei gorau i ofalu amdani, ond mae gofalu ar ôl plentyn yn ei harddegau yn medru bod yn heriol, a 'dyw Carys erioed wedi bwriadu bod yn fam. Pwy felly sydd i ofalu am Angharad?

 

Wedi ei ysbrydoli gan straeon go iawn menywod a phobol ifanc y buon nhw'n cydweithio gyda, mae Papertrail a Siân Owen wedi creu darn gafaelgar o theatr.

 

Mae pob perfformiad yn cynnwys capsiynau integredig a dau Dehonglwyr Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: Claire Anderson a Cathryn McShane.

 

Rhybudd Cynnwys: Mae'r ddrama'n cynnwys cyfeiriadau at gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon a charcharu.

 

Oedran 12+

Hyd y ddrama: 1 awr 15 munud, dim egwyl.

 

 

£16 £12 £10

17/10/25 7:30pm

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map