Menter Iaith Merthyr Tudful - Datblygu’r Gymraeg yn y Gymuned
Mae Menter Iaith Merthyr Tudful yn ganolbwynt i ddatblygiad y Gymraeg trwy weithrediad Canolfan Soar ac integreiddiad y Gymraeg i’r gymuned leol.
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol ar gyfer Teuluoedd, Siaradwyr Newydd, Plant a Phobl Ifanc I ddefnyddio’r Gymraeg yn ein cymuned.
Mae amserlen gweithgareddau'r fenter yn cael ei drefnu er mwyn darparu gwasanaethau i'n cymuned, yn y ffordd orau bosib. Felly, os oes syniad gyda chi, peidiwch ag oedi i gysylltu.
Rydym bob amser yn barod i wrando a chefnogi datblygiad gweithgarwch newydd gyda’n cymuned.
I ymuno gyda’n gweithgareddau porwch trwy ‘Beth sydd Ymlaen’, tarwch mewn neu cysylltwch trwy ffonio neu e-bostio.
I drafod syniadau newydd neu gydweithredu mewn unrhyw ffordd cysylltwch gydag Rheinallt ein Swyddog Datblygu Cymraeg i drafod ymhellach.
Amcan strategol Menter Iaith Merthyr Tudful yw cefnogi cyflawniad strategaeth Cymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr trwy gynyddu defnydd y Gymraeg yn y gymuned. Gwnaethir hyn trwy gyflawni targedau osodwyd mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Rhwydwaith Mentrau Iaith ar draws Cymru.
Llaw yn llaw a’r Strategaeth Gymraeg yw nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 o greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Yn ganolog i ethos ein sefydliad yw gweld Merthyr Tudful yn fwrlwm ein ddiwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith.
Ydych chi’n chwilio am wybodaeth am gyfleoedd addysg Gymraeg yn y sir? Gallwch ddarllen mwy yn llyfryn newydd y cyngor sir ‘Bod yn Ddwyieithog’: https://www.merthyr.gov.uk/media/6199/being-bilingual-new-leaflet.pdf
Gallwch weld adroddiad a chyfrifon blynyddol diweddaraf y sefydliad fan hyn:
Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
(PDF)
Pe bai angen nodi cwyn yn erbyn y sefydliad, gallwch ddod o hyd i'n polisi cwynion fan hyn:
Polisi Cwynion 2021 (PDF)
Menter Iaith Merthyr Tudful
Swydd Llawn Amser
Cyflog £25,000
Ydych chi’n awyddus i ddatblygu’r Gymraeg ym Merthyr fel rhan o dim Canolfan Soar?
Ffurflen gais (Word) / Ffurflen gais (pdf)
Am fanylion pellach a ffurflen gais cysylltwch â
Lisbeth McLean
Menter Iaith Merthyr Tudful, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB
01685 722176 / lis@merthyrtudful.com
Dyddiad Cau 14 Gorffennaf 2023.
01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Dilwyn Roberts, Swyddog Datblygu, dilwyn@merthyrtudful.org