Theatr Soar - Adeiladu Cymuned Greadigol
Mae Theatr Soar yn cynnig llwyfan i gymuned, adnodd i wireddu uchelgais, a gofod i’r amatur a’r proffesiynol hudo cynulleidfa.
Rydym yn cynnig lleoliad am berfformiadau, cynadleddau, hyfforddiant, cyfarfodydd cyhoeddus a mwy. Mae rhaglen gyson o berfformiadau a gweithgareddau cymunedol a phroffesiynol.
I ymuno gyda ni am berfformiad ymwelwch â ‘Beth sydd ymlaen’ i weld ein cynigion diweddaraf.
I fwcio sioe i mewn neu ddefnyddio gofod y Theatr ymwelwch â ‘Llogi Theatr’ a chysylltwch trwy ffonio neu e-bostio ein swyddfa.
Os ydych am gefnogaeth i ddatblygu syniad, cynnal perfformiad neu gydweithredu ar brosiect, cysylltwch am sgwrs gyda Lis ein Prif Swyddog.
01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru