Croeso i Ganolfan a Theatr Soar


 Menter Iaith Merthyr Tudful sydd yn gweithredu Canolfan a Theatr Soar yng Nghanol Tref Merthyr Tudful. Mae’r sefydliad yn ganolbwynt i ddatblygiad y Gymraeg yn yr ardal. 

Mae nifer o sefydliadau sydd yn gwasanaethu’r ardal wedi ymgartrefu yma yng Nghanolfan Soar sef Urdd Gobaith Cymru, Dysgu Cymraeg Morgannwg a Chylch Meithrin Soar. Mae’r Ganolfan hefyd yn lleoliad i gwmnïau Cymraeg ei hiaith, sef Siop Lyfrau’r Enfys, a Chaffi Soar.

Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau, gweithdai a pherfformiadau mewn partneriaeth â sefydliadau sydd yn ysgogi cyfranogiad. Cyn cyfnod Covid-19, croesawyd tua 42,000 o bobl o bob oedran a chefndir yn flynyddol.

Wrth wraidd ein sefydliad mae darparu amgylchfyd sy'n adeiladu hunan hyder a hunan barch ac yn ehangu gorwelion ein cymuned. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth a llesiant ein cymuned wrth wraidd ein gwaith bob dydd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Dilwyn Roberts, Swyddog Datblygu, dilwyn@merthyrtudful.org

Beth Sydd Ymlaen


Bando! Y Llyn

Bando! Y Llyn


26/10/24 7:30yh

Cariad, colled, hud a lledrith yn nhirwedd Cymru

Fersiwn newydd o hen glasur

Gweithdy Adrodd Straeon gan Michael Harvey


14/10/24 6:30-8:30yh

Yn arwain at berfformiad ‘Y Llyn’ gan Bando ar Hydref 26 rydyn ni’n falch o groesawu Michael Harvey atom i arwain gweithdy.

Grŵp Celf Soar

Grŵp Celf Soar


Dydd Iau (yn ystod y tymor), 1yh - 3yh

Grŵp celf wythnosol dan arweiniad yr artist Gus Payne.

X

Map

Cysylltu


01685 722176

swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org

Dilwyn Roberts, Swyddog Datblygu,
dilwyn@merthyrtudful.org