Sioe un fenyw ‘syfrdanol’ wedi’i hysbrydoli gan Amy Johnson, y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Loegr i Awstralia!
Ar fore'r 5ed o Fai 1930, esgynodd awyren ddeuol fach werdd o Faes Awyr Croydon ar daith awyren unigol gyffrous i Awstralia a dorrodd record. Daliodd yr awyren hon ddychymyg y byd a gwnaeth seren ryngwladol o’r beiriannydd a pheilot, Amy Johnson.
2025 yw 95 mlynedd ers camp syfrdanol Amy ac mae ei stori mor berthnasol a chyffrous ag erioed.
Wedi'i geni yn y flwyddyn y gwnaeth y Brodyr Wright eu hediad pŵer cyntaf, magwyd Amy Johnson mewn oes lle byddai uchelfannau rhamantus hedfan yn dal ei chalon, a hi fyddai'r fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Loegr i Awstralia. Bu'n byw ei bywyd ar gyfer antur a dyfodol hedfan.
Ym mis Ionawr 1941, yn ddim ond yn 37 oed, cafodd Amy ei lladd tra’n gwasanaethu ei gwlad ar awyren arferol ar gyfer yr Air Transport Auxiliary, gan neidio allan i Aber Afon Tafwys dros Fae Herne.
Yn ei bywyd byr cyflawnodd y ‘lone girl flier ’ hon lawer tra’n wynebu heriau enfawr.
Yn y sioe hon, rydyn ni'n cwrdd ag Amy mewn byd o atgofion, dyheadau, dymuniadau ac uchelgeisiau ac wrth i ni ddarganfod am ei bywyd rydyn ni'n dechrau gweld sut mae'r darnau'n ffitio a'r offer a ddefnyddiodd Amy i wireddu ei breuddwydion.
Mae'r sioe yn dathlu Amy Johnson , a oedd yn ei geiriau ei hun yn 'ddynes gyffredin a wnaeth bethau rhyfeddol’
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru