I goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VE, ymunwch â ni ar gyfer dangosiad o ffilm The Silent Village gyda siaradwyr gwadd.
Mewn partneriaeth â Llyfrgell Holocost Wiener, Sefydliad Josef Herman a Chanolfan Ddiwylliannol Iddewig Cymru byddwn yn cyflwyno The Silent Village, sy’n cofio cyflafan Lidice, lle dienyddiwyd poblogaeth wrywaidd gyfan cymuned lofaol gan y Natsïaid ym 1942. Mae’r ffilm yn gweld pentrefwyr Cwmgiedd, de-orllewin Cymru, yn ailadrodd ac ail-greu’r stori drasig fel petai’n digwydd yng Nghwmgiedd.
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru