Bydd y prosiect cerddorol rhyngwladol o Gymru, Cwmwl Tystion yn ymweld â Theatr Soar, Merthyr Tydfil fel rhan o’i taith o Gymru ar nos Iau 6ed o Fehefin 2024.
Yn ymchwilio i hanes ac hunaniaeth Cymru, i gyfeiliant celf-weledol fyw, bydd Cwmwl Tystion III / Empathy yn cyflwyno noson arloesol o gerddoriaeth gwreiddiol Gymraeg.
Sesiwn holi ar ôl y perfformiad.
Mae’r trwmpedwr Tomos Williams wedi llwyddo, unwaith eto, i ymgynull casgliad rhyfeddol o gerddorion ar gyfer Cwmwl Tystion III / Empathy. O Gymru bydd Mared Williams ac Eadyth Crawford yn canu, ar y gitâr bydd Nguyên Lê o Ffrainc/Vietnam a bydd y cawr Melvin Gibbs, o Efrog Newydd ar y bâs. Bydd Tomos ar y trwmped, a Mark O’Connor ar y dryms ochr yn ochr ag effeithiau gweledol byw gan Simon Proffitt.
Mae Melvin Gibbs a Nguyên Lê yn adnabyddus ledled y byd ac mae’n dipyn o gamp iw denu i Gymru – arwydd o safon a gweledigaeth y prosiect, tra bod Mared ac Eadyth yn cael ei adnabod fel dwy o leisiau ifanc, mwya’ cyffrous Cymru.
Bydd y band yn perfformio cerddoriaeth newydd sy’n cynnwys elfennau o jazz, rock, yr avant-garde a cherddoriaeth werin Gymreig. Mae’r enw ‘Cwmwl Tystion‘ yn deillio o gerdd y bardd Waldo Williams a bydd y gerddoriaeth yn ystyried themâu yn deillio o hanes Cymru a’n hunaniaeth.
Noddir y cyfansoddiad ‘Cyfres Cwmwl Tystion’ gan Dŷ Cerdd, a gwnaethpwyd y daith yn bosibl yn sgil cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae Cwmwl Tystion yn atgyfnerthu enw Tomos Williams fel un o gerddorion mwya arloesol a thalentog Cymru” – Jon Gower, nation.cymru
“Cyffrous, a chwbl Gymraeg…yn cynrychioli Cymru amlhiliol, amlddiwylliannol ac amlhaenog – yr hen a’r newydd yn dod ynghyd” – Sioned Webb, Barn
Tomos Williams – trwmped / cyfansoddwr
Mared Williams – llais
Eady Crawford – llais, effeithiau electroneg
Nguyên Lê – gitâr trydan
Melvin Gibbs – bâs
Mark O’Connor – drymiau
Simon Proffitt – celfyddyd weledol
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru