“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”
Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos. Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn - mi gewch chi’r cyfan. Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos.
Bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni mewn sawl lleoliad ar hyd y daith i gynnal siop ‘pop up’ - felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa. Beth allai fod yn well?
Cast : Carys Gwilym
Cyfarwyddo : Iola Ynyr
Awduron : Iola Ynyr a Carys Gwilym
Cerddor : Osian Gwynedd
Technegydd : Llywelyn Roberts
Cynllunydd : Lois Prys
Cyd-weithrediad â Galeri, Caernarfon
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru