Synergedd


Synergedd

Daw chwe dawn gerddorol aruthrol o Gymru a Lloegr ynghyd ar gyfer cydweithrediad unigryw ac arbennig a fydd yn mynd â’u hathrylith unigol i’r lefel nesaf gyda’i gilydd. Mae ALAW, y “Welsh supergroup” (Songlines) yn dathlu cerddoriaeth draddodiadol Cymru gydag angerdd heintus, gan gyfuno cyfansoddi caneuon pwerus gydag alawon gwreiddiol. Mae VRï wedi ennill yr Albwm Orau yng Ngwobrau Gwerin Cymru ddwywaith, ac yn asio prydferthwch tannau clasurol â hedoniaeth sesiwn dafarn, y cyfan wedi’u rhwymo â harmonïau lleisiol pwerus. Mae Hannah James yn gerddor, yn gantores ac yn ddawnswraig gyfareddol, arloesol a ddisgrifiwyd fel “a true original” (The Guardian). A hithau’n enwog fel un o’r acordionyddion gorau ar y sîn werin ym Mhrydain, mae ei dawn gerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r traddodiad.

£15 £12

12/11/25 7:30yh

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map