I bob pwrpas – ‘supergroup’ o fand twmpath yw TwmpDaith!
Mae'r band yn cynnwys naw o gerddorion a dawnswyr ifanc o dros Gymru. Daethpwyd a hwy ynghyd drwy “Prosiect WYTH” - prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig.
Daw TwmpDaith 2024 a set newydd sbon o gerddorion a dawnswyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd. Yr un mor dalentog â'u traed ag y maent gyda'u hofferynnau a'u lleisiau. Heb os, bydd eu brwdfrydedd ifanc, egni diderfyn a'u halawon Cymreig bywiog yn ysbrydoli pawb i ddawnsio mewn dim o dro.
Mae TwmpDaith yn cydweithio gyda nifer o Fentrau Iaith yn lleol i ddod a noson o ddathlu ein traddodiadau gwerin i’ch ardal chi. Mae’r nosweithiau yr un mor boblogaidd gyda Chymry Cymraeg ag y mae nhw gyda siaradwyr newydd sy’n dysgu’r iaith a’r di-Gymraeg sydd eisiau dysgu mwy am ein cerddoriaeth a dawnsfeydd cynhenid. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o ddawnsio i ddod i fwynhau'r noson.
Peidiwch â cholli TwmpDaith yn eich ardal chi- am chwistrelliad heintus o ddawnsio, clocsio ac alawon Cymreig!
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru