Ysgol Roc Soar


Ysgol Roc Soar

Ymunwch â Cerdd Cymunedol Cymru a Theatr Soar, Merthyr Tudfil ar gyfer‘ RIFF’, ysgol roc ieuenctidd llawn cyffro.

Dyddiadau: 27 & 28 Hydref

Lleoliad:Theatr Soar, Merthyr Tudfil

Amser:Dydd Llun 10am – 4pm | Dydd Mawrth 11am – 5pm

Os ydych chi’n gerddor ifanc sy’n chwarae gitâr, bas, drymiau, bysellfwrdd neu’n canu, dyma gyfle gwych i gysylltu â cherddorion ifanc eraill, dysgu, creu cerddoriaeth, a pherfformio.

Bydd tiwtoriaid profiadol wrth law drwy’r ddau ddiwrnod i’ch cefnogi, eich annog, a’ch helpu i ddatblygu’ch sgiliau.

Ar y dydd Mawrth, bydd cyfle arbennig i berfformio yn Noson Agored Soar, a gallwch wahodd unrhyw un i ddod i’ch cefnogi a’ch gweld yn perfformio ar y llwyfan.

Mae hyn yn gyfle gwych i greu cysylltiadau cerddorol newydd, dod o hyd i bobl i gydweithio gyda nhw, a dechrau prosiectau cerddorol newydd.

£20 am y ddau ddiwrnod.(Os na allwch ddod i’r ddau ddiwrnod, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio trefnu rhywbeth i chi).

£20

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map