Rydym wedi ymroi i ddiogelu preifatrwydd y rhai sy’n ymweld â’n gwefan; mae’r polisi hwn yn nodi sut y byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol.
Crëwyd y ddogfen hon yn defnyddio templed SEQ Legal.
Gallwn gasglu, cadw a defnyddio’r mathau canlynol o wybodaeth bersonol:
(a) gwybodaeth am eich cyfrifiadur ac am eich ymweliadau a’ch defnydd o’r wefan hon (yn cynnwys eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd, lleoliad daearyddol, math o borwr a fersiwn porwr, system weithredu, ffynhonnell cyfeirio, hyd eich ymweliad, tudalennau, llywio rhyngrwyd)
(b) gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw drafodion rhyngoch chi a ni neu mewn perthynas â’r wefan hon, yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw nwyddau neu wasanaethau yr ydych wedi eu prynu gennym ni.
(c) gwybodaeth yr ydych yn ei darparu er mwyn cofrestru gyda ni
(d) gwybodaeth yr ydych yn ei darparu at ddibenion tanysgrifio at ein gwasanaethau rhyngrwyd, hysbysiadau ebost a/neu gylchlythyrau.
(e) unrhyw wybodaeth arall yr ydych yn dewis ei hanfon atom.
Cyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol person arall i ni, rhaid i chi gael caniatâd y person hwnnw ar gyfer datgelu a phrosesu’r wybodaeth bersonol honno yn unol â thelerau’r polisi preifatrwydd hwn.
Darn bach o wybodaeth yw ‘cwci’ ar ffurf ffeil destun sy’n cynnwys dynodwr (cadwyn o lythrennau a rhifau), sy’n cael ei anfon gan weinyddydd gwe a’i storio ar gyfrifiadur y sawl sy’n ymweld â gwefan. Gall y gweinyddydd neu’r porwr gwe wedyn ei ddarllen yn ôl yn nes ymlaen pan fo angen. Mae defnyddio cwci yn ffordd gyfleus i’r cyfrifiadur gofio gwybodaeth benodol sy’n gysylltiedig â gwefan a thracio’r porwr. Gweler ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth.
Bydd yr wybodaeth bersonol a gyflwynir gennych ar y wefan hon yn cael ei defnyddio at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn neu mewn rhannau perthnasol o’r wefan.
Fe allwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol:
(a) er mwyn eich galluogi i ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael ar y wefan;
(b) i anfon tocynnau atoch a brynwyd gennych ar y wefan, a’ch cyflenwi gyda’r gwasanaethau a brynwyd yn defnyddio’r wefan;
(c) i anfon datganiadau ac anfonebau atoch chi, a chasglu taliadau gennych chi;
(ch) i anfon gohebiaeth fasnachol cyffredinol (sydd ddim yn ddefnydd marchnata) atoch chi;
(d) i anfon hysbysiadau ar ebost atoch yr ydych wedi gofyn yn benodol amdanynt;
(dd) i anfon ein cylchlythyr, a gohebiaeth marchnata arall atoch ynghylch ein busnes neu fusnes trydydd parti sydd wedi ei ddewis yn ofalus yr ydym yn credu gall fod o ddiddordeb i chi, trwy’r post, neu, ble’r ydych wedi cytuno’n benodol i hynny, trwy ebost neu dechnoleg debyg (a gallwch roi gwybod i ni ar unrhyw adeg os nad ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth marchnata mwyach);
(e) i ddarparu gwybodaeth ystadegol am ein defnyddwyr i drydydd parti – ond ni fydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i ddynodi unrhyw ddefnyddiwr unigol;
(f) i ymdrin ag ymholiadau a chwynion a wnaed gennych neu amdanoch yn ymwneud â’r wefan;
(ff) i gadw’r wefan yn ddiogel ac i atal twyll;
(g) i wirio cydymffurfiaeth â’r telerau ac amodau sy’n llywodraethu defnydd y wefan
Ni fyddwn, heb ganiatâd penodol gennych, yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata uniongyrchol.
Mae ein holl drafodion ariannol ar y wefan yn cael eu gweinyddu trwy ein darparwr gwasanaethau talu, Global Payments. Gallwch adolygu polisi preifatrwydd Global Payments ar www.globalpaymentsinc.com.html. Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth â Global Payments i’r graddau angenrheidiol at ddibenion prosesu taliadau a wneir gennych ar ein gwefan, ad-dalu taliadau o’r fath ac ymdrin â chwynion ac ymholiadau ynghylch taliadau ac ad-daliadau o’r fath.
Fe allwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un o’n cyflogeion a swyddogion cyn belled â’i bod yn rhesymol angenrheidiol i wneud hynny at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn.
Fe allwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o’n grŵp ni o gwmnïau (mae hyn yn golygu ein his-gwmnïau, ein prif gwmni daliannol a’i holl is-gwmnïau) cyn belled â’i bod yn rhesymol angenrheidiol i wneud hynny at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn.
Yn ogystal, fe allwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol dan yr amgylchiadau canlynol:
(a) rydym dan ddyletswydd i wneud hynny er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith;
(b) mewn cysylltiad ag unrhyw achosion cyfreithiol parhaus neu arfaethedig;
(c) er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (yn cynnwys darparu gwybodaeth i eraill at ddibenion atal twyll a lleihau risg credyd);
(ch) i unrhyw berson yr ydym yn credu’n rhesymol all wneud cais i lys neu awdurdod cymwys arall am ddatgelu’r wybodaeth bersonol honno ble, yn ein barn resymol ni, y byddai’r fath lys neu awdurdod yn rhesymol debygol o orchymyn datgelu’r wybodaeth bersonol honno.
Ac eithrio fel y darparir yn y polisi preifatrwydd hwn, ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i dryddydd parti.
Byddwn yn cymryd rhagofalon technegol a gweinyddol rhesymol i atal colli, camddefnyddio neu newid eich gwybodaeth bersonol.
Byddwn yn cadw’r holl wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu ar ein gweinyddwyr diogel sydd wedi eu hamddiffyn gan gyfrinair a mur gwarchod.
Bydd pob trafodyn electronig sy’n digwydd ar y wefan yn cael ei amddiffyn gan dechnoleg amgryptio.
Rydych yn cydnabod bod trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gynhenid anniogel, ac na allwn warantu diogelwch data a anfonir dros y rhyngrwyd.
Efallai y byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd trwy bostio fersiwn newydd ar ein gwefan. Dylech wirio’r dudalen yn achlysurol er mwyn sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau.
Gallwch ein cyfarwyddo i’ch darparu ag unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Bydd darpariaeth gwybodaeth o’r fath yn amodol ar gyflenwi tystiolaeth briodol o’ch hunaniaeth (i’r diben hon, byddwn fel arfer yn derbyn llungopi o’ch pasbort wedi ei ardystio gan gyfreithiwr neu fanc ynghyd â chopi gwreiddiol o anfoneb am wasanaeth cyhoeddus sy’n dangos eich cyfeiriad cyfredol).
Gallwn atal gwybodaeth bersonol o’r fath i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith.
Gallwch ein cyfarwyddo i beidio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata. Yn ymarferol, byddwch fel arfer naill ai’n rhoi caniatâd ymlaen llaw i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi wrthod gadael i’ch gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio at ddibenion marchnata.
Mae’r wefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am bolisïau preifatrwydd nac arferion gwefannau trydydd parti.
Rhowch wybod i ni os oes angen cywiro neu ddiweddaru’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei dal amdanoch.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn neu’r modd yr ydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, ysgrifennwch atom ar ebost at swyddfasoar@merthyrtudful.org neu drwy’r post at Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
Y rheolwr data sy’n gyfrifol am yr wybodaeth a gasglir ar y wefan hon yw Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful.
01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru