Opera newydd gan y gyfansoddwraig ifanc dalentog o Gymru, Claire Victoria Roberts, yw Bwci Be?!, sy’n cael ei pherfformio yn y cyfnod cyn Calan Gaeaf. Gyda libreto gan Gyfarwyddwr Artistig y cwmni, Patrick Young, a’r amryddawn Gwyneth Glyn, mae’r opera newydd yn dychmygu beth allai ddigwydd pe bai merch yn ei harddegau yn cael ei chamgymryd am ysbryd go iawn, a chael ei chaethiwo yn Annwn. Mae’r perfformiad yn para ychydig o dan awr, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer plant (ac oedolion!) o bob oed. Dathliad o draddodiad Cymreig Calan Gaeaf a fydd yn gadael cynulleidfaoedd wedi’u swyno!
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru