Dewch i fwynhau gweithgareddau Celf a Chrefft Calan Gaeaf yn Theatr Soar, Merthyr Tudful! Bydd gweithdai hwyl a chreadigol ar gael o 29 Hydref i 31 Hydref rhwng 9:00 a 14:00.
Bydd y plant yn cael cyfle i greu nifer o wahanol grefftau gan ddefnyddio pob math o ddeunyddiau, gan adael i’w dychymyg a’u creadigrwydd redeg yn wyllt. Mae plant dan 5 oed yn gorfod bod gydag oedolyn.
Nid oes rhaid iddyn nhw ddod bob dydd – ond rhaid archebu ar gyfer pob dydd rydych am i’ch plentyn fynychu. Cynghorir plant i wisgo dillad nad oes ots ganddyn nhw gael eu difetha a dod â phecyn bwyd
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru