Mae Trac Cymru yn cynnal y prosiect ‘Cân y Drudwy’, sy’n rhoi cyfle i bobl ddysgu caneuon gwerin mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol yng Nghanolfan a Theatr Soar.
Mae'r sesiynau'n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob lefel, gan gynnwys dysgwyr a siaradwyr rhugl.
Bydd sesiwn awr a hanner yn cael ei gynnal dwywaith y mis, dan arweiniad tiwtoriaid, cerddorion a chantorion gwerin profiadol. Bydd y caneuon yn gymharol syml i bawb eu dysgu ac i fwynhau cyd-ganu fel grwp.
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru