Prosiect Owen Shiers, un o frodorion Dyffryn Clettwr yw’r prosiect Cynefin. Wedi’i gyfareddu gan gerddoriaeth a hanes, mae’n gais i roi llais i dreftadaeth gyfoethog Ceredigion sydd eisoes wedi mynd yn angof. Wrth gychwyn ym mhentref Capel Dewi yn Nyffryn Clettwr, sef bro ei mebyd, a theithio’r trwy’r tirlun cerddorol lleol mae Owen wedi dadorchuddio hen straeon, cerddi a chaneuon, ac wedi rhoi bywyd newydd iddynt yn y presennol.
Bydd Owen a'r band yn teithio'r albym diweddaraf, sef 'Shimli', (sydd newydd dderbyn enwebiad am 'Albym y Flwyddyn y DU 2025), ac sydd yn rhoi cipolwg unigryw ar ddiwylliant llafar ac arferion y gorffennol, wrth hefyd trafod yr heriau cyfoes sy'n gwynebu cefn gwlad a chodi cwestiynau o gylch ein hanhwylder modern o ddatgysylltu a diwreiddio.
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru