Mae olwyn ffawd yn troi. Mae’n gwneud y cyfoethog yn fwy gyfoethog, a’r tlawd yn fwy dlawd. Duw a ŵyr nid yw’n talu chwedleuwyr ddigon…
Mewn dinas goll, mae straeon yn cydblethu: chwedlau terfysglyg am gariad, chwant, a chynllwyn. Mae merch yn cael ei magu fel bachgen ac yn cychwyn ar daith i ddarganfod ei hunan. Mae brenin yn syrthio mewn cariad â blaidd-ddyn. Mae dewin gwyllt yn crwydro’r goedwig, yn aros i gael ei ddarganfod. Bydd olwyn ffawd yn dod â nhw i gyd at ei gilydd.
Mae Dinas y Lêdis yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng y storïwr gwobrwyedig Tamar Eluned Williams a’r cerddor Jordan Price Williams (VRï, Elfen, Pendevig). Gan Gan uno chwedleua ddwyieithog a cherddoriaeth er mwyn llwyfannu rhamantau rhyfedd llys canoloesol Ffrainc, mae’r sioe yn croesi tirwedd gyfoethog, o Gernyw i Gymru i Lydaw.
Oedran: 14+
Cyfyngiadau cynnwys: mae’r sioe yn cynnwys cyfeiriadau at drais, trais rhywiol, genedigaeth, artaith, ac agweddau homoffobig, mewn cyd-destun canoloesol.
Cefnogir datblygiad y sioe hon gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaith ag Adverse Camber, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Theatr Soar, TRAC, a Chylch Adrodd Straeon Caerdydd.
Iaith: Saesneg a Chymraeg
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru