Cyfle i wrando ar gerddoriaeth ‘r 18fed a’r 19eg ganrif ar ddwy delyn a wnaed yn yr un cyfnod. Mae’r stori’n cychwyn gyda’r Delyn Deires a ddatblygwyd yn yr Eidal yn ystod y Baroc, ac yn boblogaidd yng nghyfnod Handel. Gyda thair rhes o dannau, roedd yn delyn gymleth ac yn ddrud i roi tannau arni - ac fe gafodd ei hanghofio yng ngwledydd Ewrop. Ond yn rhyfeddol, mabwysiadwyd hi gan yr hen delynorion Cymreig, a pharhaodd fel telyn y werin yng Nghymru. Gwnaed fy nhelyn deires i gan y gwneuthurwr telynau enwog, John Richard o Lanrwst, tua 1755.
Yn ystod diwedd y 18fed ganril, di-sodlwyd yr hen Delyn Deires yn y mwyafrif o wledydd Ewrop gan delynau pedal mecanyddol newydd o Ffrainc a'r Almaen, a oedd yn galluogi telynorion i newid traw y tannau gyda'u traed. Roedd y telynau cynnar, addurniedig hyn yn boblogaidd iawn ymysg merched cyfoethog a ffasiynnol trwy Ewrop - i arddangos eu harddwch! Y gwneuthurwr telynau enwocaf oedd Sebastian Erard a arferai weithio yn Llys Brenhines Ffrainc, Marie Antoinette, cyn iddo orfod dianc o Baris i Lundain yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Gwnaed fy nhelyn i ganddo yn ei weithdy yn Great Marlborouigh Street, Llundain yn 1807.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth gan Handel, John Parry Ddall, Edward Jones (Bardd y Brenin) Rossetti, Dussek a Spohr.
" Wedi canu darnau gan Handel a John Parry ar y delyn fodern am flynyddoedd, rwyf yn awyddus i rannu'r hwyl a gefais wrth ddysgu canu'r un gerddoriaeth ar yr offerynnau gwreiddiol. Dibynnais ar yr hen delynau, a llawysgrifau gwreiddiol o'r cyfnod - i ddangos y ffordd imi. Gwaith cariad oedd y broses o ganfod sain wirioneddol y cyfnod, ac mae rhai o'r technegau yn wahanol iawn i'n cyfnod ni. Rwyf wedi cael cyngor gan sawl cerddor sydd wedi arbenig o fewn maes cerddoriaeth cynnar, ac yn ddiolchgar am hynny” - Elinor Bennett
Mae’r delynores Elinor Bennett yn flaengar ym maes cerddoriaeth, fel perfformiwr ac athrawes , a theithiodd y byd yn rhoi cyngherddau, datganiadau a dosbarthiadau meistr. Astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain gyda’r athrylith, Osian Ellis, ac aeth ymlaen i berfformio gyda Cherddorfeydd mwyaf Prydain a rhai o’r arweinyddion a chyfansoddwr gorau’r byd, yn cynnwys Benjamin Britten, Sir Colin Davis ac André Previn. Ysgrifennodd llawer cyfansoddwr gerddoriaeth iddi yn cynnwys Karl Jenkins, John Metrcalf, Alun Hoddinott a Paul Mealor. Enillodd Elinor Ysgoloriaeth Churchill i deithio i Awstralia i astudio Therapi Cerdd a hi yw un o sefydlwyr Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon, a Chyfarwyddwraig Artistg cyntaf Gwyl Delynau Ryngwladol Cymru. Bu'n perfformio a beirniadu mewn a gwyliau telyn yn rhyngwladol - yn Siapan, Awstralia. Seland Newydd, Gwlad Thai, Yr Almaen, Ffrainc , yr Eidal , Iseldiroedd, ac America. Bu’n dysgu'r delyn ym Mhrifysgol Bangor, yn Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac Ysgol Gerdd y Guildhall, Llundain, a derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Rhyddhaodd ystod eang o recordiadau, ac ymddangosodd yn rheolaidd ar raglenni cerdd ar radio a theledu.
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru