Gweithdai Celf a Chrefft i blant


Gweithdai Celf a Chrefft i blant

Mae Soar a Chwmni Blodau Haul yn cynnal gweithdai Celf a Chrefft AM DDIM dros bythefnos cyntaf gwyliau’r haf!

Bydd cyfanswm o 6 diwrnod o weithdai. Mae croeso i chi ddod i bob un ohonynt, ond peidiwch â phoeni os na allwch — dewch ar y dyddiau sy’n gweithio i chi. Mae croeso i bobl alw mewn un rhywbryd hefyd!

Gall rhieni a theulu ddewis aros gyda’r plant neu beidio — mae hynny’n hollol i fyny i chi. Fodd bynnag, gofynnwn i blant o dan 5 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Byddwn yn defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu i greu’r crefftau. Bydd gweithgaredd gwahanol bob dydd, ond bydd pob un yr un mor hwyliog a chreadigol!

Gobeithiwn eich gweld chi yno!

AM DDIM/FREE

21/7/25-23/7/25 a 28/7/25-30/7/25 o 10:00 tan 14:00

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map