GWEITHDY CYFANSODDI gydag UPROAR a David John Roche
Mae Ensemble Uproar yn cynnig gweithdy cyfansoddi diwrnod o hyd wedi’i anelu at gyfansoddwyr a cherddorion ifanc o Gymru 14-18 oed (blynyddoedd 10-13). Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu am ysgrifennu cerddoriaeth, gwahanol fathau o nodiant cerddorol, cerddoriaeth newydd flaengar, a phosibiliadau gwahanol offerynnau - i gyd mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol a hwyliog.
SUT MAE'N GWEITHIO?
Yn cael ei gynnal yn Theatr Soar, Merthyr, bydd cyfranogwyr yn cael cymorth un-i-un i ysgrifennu darn o gerddoriaeth sy’n para 1-3 munud. Drwy gydol y dydd bydd ganddynt fynediad at berfformwyr o safon fyd-eang Uproar (offerynnau taro, trymped, clarinét, a fiola) a chefnogaeth y cyfansoddwr Cymreig o Dredegar, David John Roche. Ar ddiwedd y dydd, bydd gwaith pob cyfranogwr yn cael ei gofnodi, yn barod iddynt ei ddefnyddio.
Nid oes ffafriaeth i arddull gerddorol a gall cyfansoddwyr ysgrifennu eu cerddoriaeth â llaw, defnyddio cyfrifiadur, neu ei hysgrifennu ar eu hofferyn (neu yn eu pen). Ar y diwrnod, bydd angen creu cerddoriaeth ddalen a’i defnyddio er mwyn i gerddorion Uproar berfformio’r darnau sydd newydd eu creu, ond darperir cefnogaeth mewn sesiwn ar gyfer hyn. Gall cyfranogwyr hefyd gyflwyno cerddoriaeth ymlaen llaw – rydym yn awyddus i gefnogi cyfansoddwyr a cherddorion sydd ar wahanol gamau yn eu hymarfer.
Er mwyn archebu lle neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Cathy Boyce, Rhaglennydd Creadigol ar CathyB@merthyrtudful.org
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru