Gwen yr Arth Wen


Gwen yr Arth Wen

Mae Gwen, arth wen bryderus, yn deffro ar gap iâ wedi torri, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’i theulu. Ar ei thaith beryglus drwy Gefnfor yr Arctig, bydd yn rhaid iddi ddod o hyd i’w dewrder, yn ogystal â’i ffordd adref.Perfformiad gweledol a myfyriol yn y Gymraeg am newid hinsawdd, cartref a magu hyder, ar gyfer cynulleidfaoedd 6+ oed a’u teuluoedd. Gyda themâu newid hinsawdd, cartref a hyder wrth ei chalon, mae Gwen yr Arth Wen yn gweu cerddoriaeth, pypedau a ffurf weledol o adrodd straeon i greu sioe gyfoethog a chyffrous am ddod o hyd i’r hyder ynoch chi’ch hun.

Perfformiad llawen a myfyriol yn y Gymraeg ar gyfer cynulleidfaoedd 6+ oed a’u teuluoedd.Wedi’i ysgrifennu gan yr awdur arobryn Chris Harris, ei gyfarwyddo gan Elan Isaac, a gyda dylunio syfrdanol gan Luned Gwawr Evans, mae hwn yn berfformiad cofiadwy i’r teulu cyfan - beth bynnag eich lefel o Gymraeg - sy’n dod atoch chi y Gwanwyn yma.

Oedolion £8 Plant £6

30/03/26 12yp 2yp

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map