Noson o Gerddoriaeth - Y delynores Mari Kelly


Noson o Gerddoriaeth - Y delynores Mari Kelly

Y Delynores Mari Kelly; Disgyblion Ysgol Santes Tudful a Jonathan Gulliford ar organ unigryw Soar. Dyma gyfle arbennig i glywed datganiad gan Mari Kelly, y delynores o Ferthyr Tudful.

O oedran ifanc Mari oedd prif delynores Cerddorfa Genedlaethol Plant Prydain Fawr. Yn ystod y cyfnod hwn, enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Cerdd Dant droeon.

Mae Mari wedi perfformio ar rai o lwyfannau mwyaf y byd gan gynnwys y Royal Albert Hall ac mae’n fraint ei chael hi nôl adref yn ei thref enedigol.

A hithau’n gyn ddisgybl ysgol Santes Tudful bydd disgyblion o'r ysgol yn ymuno gyda hi ynghyd â’r organydd Jonathan Gulliford.

Bydd elw o'r noson yn mynd tuag at ariannu portread o'r delynores Elinor Bennett sydd hefyd â chysylltiadau agos iawn gyda'r dref.

10.00

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map