Shinani'n Siarad


Shinani'n Siarad

Shinani’n Siarad

Darlleniadau a sgwrs gyda Sharon Morgan, Delyth Wyn, Maria Pride a Bethan Sayed.

‘Cyfieithiad o The Vagina Monologues gan Eve Ensler yw Shinani’n Siarad. Disgrifiwyd y monologau, sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth uniongyrchol gan amrywiaeth eang o fenywod, gan Charles Isherwood yn y New York Times yn 2006 fel’ mwy na thebyg gwaith pwysicaf theatr wleidyddol y ddegawd ddiwethaf.’ Erbyn i mi eu cyfieithu nhw yn 2004 ro’n nhw wedi eu cyfieithu i ddegau o ieithoedd ac wedi esgor ar‘V’ Day, y mudiad gweithredu byd-eang i orffen trais yn erbyn menywod cododd miliynau o bunnoedd at yr achos.Teimlais yn gryf iawn ei bod hi’n bwysig ein bod ni yng Nghymru yn cael profi ehangder emosiynol y gwaith yma sy’n ein difyrru, ein syfrdanu ac weithiau yn ein llorio yn ein hiaith ein hunain. Mae pob monolog yn unigryw, ond mae nhw i gyd yn tynnu sylw at y ffaith fod angen i fenywod ddathlu pleserau ei rhywioldeb yn ddigyfaddawd, ac yn pwysleisio eu perchnogaeth llwyr o’u cyrff ar hyn sydd yn digwydd iddo; nad oes gan neb yn y bydhawl ar gorff menyw ond y fenyw ei hun. Mae nhw’n annwyl, yn angerddol, yn ddoniol ac yn ddirdynnol.Mae nhw’n adloniannol tu hwnt, ac yn addysgiadol hefyd.’

Sharon Morgan

‘Er mwyn parhad yr hîl, mae’n rhaid i fenywod fod yn ddiogel ac yn hyderus o’u pwer.Mae’n ddamcaniaeth amlwg, ond fel y Shinani mae angen llawer o ofal a chariad arni er mwyn ei datguddio.’ Gloria Steinem.

£5

23/9/25 18:30

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map