Y Parlwr mewn partneriaeth gyda Theatr Soar yn cyflwyno noson arbenning o berfformiadau gwerin i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Tri gŵr ifanc o berfeddion Cymru traddodiad y capeli yw VRï, sy’n creu trac sain yn gyfeiliant i gynnwrf diwylliannol y ddau gan mlynedd diwethaf. Mae VRï, sef Jordan Price Williams (sielo, llais), Aneirin Jones (ffidil, llais) a Patrick Rimes (fiola, ffidil, llais) yn cyfuno egni sesiwn swnllyd yn y dafarn ag arddull a chynildeb y pedwarawd llinynnol Fiennaidd, gan ail-ddehongli repertoire cyfoethog ac amrywiol cerddoriaeth draddodiadol Cymru trwy brism triawd llinynnol siambr.
Elin a Carys, chwiorydd o Sir Drefaldwyn, wedi bod yn canu gyda’i gilydd cyhyd ag y gallant gofio. Cyrhaeddon nhw rownd derfynol Brwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod y llynedd ac ers hynny, maen nhw wedi chwarae nifer o gigs ledled Cymru, gan drefnu a pherfformio caneuon gwerin traddodiadol Cymreig a darnau gwreiddiol. Gyda ystod o offerynnau mewn llaw, maent yn dod â chymysgedd o faledi twymgalon ac alawon calonogol, llawen, a’u lleisiau’n plethu harmoniau drwyddi draw.
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru