Water Wars


Water Wars

Company Of Sirens Yn Cyflwyno Water Wars Gan Ian Rowlands | Cyfarwyddwyd gan Chris Durnall | Sgôr Gwreiddiol gan John Meirion Rea Cast Yn Cynnwys Siwan Morris, Owen Arwyn a Jâms Thomas

PWY SY’N BERCHEN AR Y GLAW? “BETH SY’N GWNEUD I CHI FEDDWL EIN BOD NI’N BAROD I SYCHEDU I FARWOLAETH, ER MWYN I CHIALLU DDYFRIO LAWNTIAU SURBITON?”

Pan wnaeth dinas Lerpwl fynnu i adeiladu argae ar draws afon Tryweryn yn y 60au, yn groes i ddymuniadau gwleidyddion Cymreig a phobl Cymru, bu ail ddeffro’r awydd i gael hunan lywodraeth i’r wlad. Ddeugain mlynedd ynddiweddarach gellid ddadlau bod argae Tryweryn wedi arwain yn uniongyrchol at ddatganoli.

Yn Water Wars, mae Lloegr yn goresgyn Cymru er mwyn dwyn ei hadnoddau ac er mwync ynnal ei hecoleg ai hun. Mae Water Wars yn ddrama gyffro eco sy’n hynod berthnasol i gymunedau Cymru heddiw.

Mae Ian Rowlands yn ddramodydd adnabyddus rhyngwladol o Gaerfyrddin. Mae ei ddramau yn cynnwys ‘Marriage of Convenience’, ’Troyanne’, ‘Love in Plastic’, ‘Blue Heron in the Womb’, ‘The Sin Eaters’, ‘Glissando on an Empty Harp’ ac ‘Aurora Borealis’.

Mae’r cynhyrchiad yn gwbl ddwyieithog.

“DYCH CHI EISIAU’N DWR NI GAN FOD SYSTEM ECO LLOEGR WEDI GWIRIONI

  DYN NI’N TEIMLO’N FLIN DROSOCH CHI, YN WIR I CHI.
OND DYN NI ‘DI HEN FLINO O GAEL EIN SGRIWIO DROSODD ER MWYN CYFLAWNI EICH HANGHENION CHI SAIS.
MAE’N DWR NI YN YN CYNNAL EIN HANGHENION NI YN UNIG. HEB HYNNY MAE EIN GALLU NI I OROESI YN DIFLANNU” 

 

Mae’r ddrama hon yn cynnwys iaith gref a golygfeydd o drais.

Comisiynwyd Water Wars yn wreiddiol gan National Theatre Wales, ac fe’i datblygwydgan yr awdur a Theatr Pen Cymru yn 2020

 

Cyffredinol £15 Consesiwn £12

29/03/25 7:30yh

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map