Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng nghwmni Avanc a Gwilym Bowen Rhys.
Mae AVANC yn cynrychioli criw o bobl ifanc disglair a thalentog tu hwnt o'n traddodiadau cerddorol sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gerddorion gwerin ifanc. Mae nhw'n arbenigo mewn adfywio cerddoriaeth a fu'n gudd mewn manuscripts llychlyd hen lyfrgell ar hyd yr oesau gan eu trawsnewid yn eu ffordd dihafal eu hunain i fod yn gampweithiau egniol ac unigryw. Yn ymuno a Avanc fydd dawnswyr o Gymdeithas Tamil Cymru.
Mae Gwilym Bowen Rhys wedi ei sefydlu ei hun fel llysgennad dros y Gymraeg a chanu, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd hefyd. Cafodd hyn ei gadarnhau gan ei enwebiad ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio a thrwy ennill Gwobr yr Artist Unigol Orau yng Ngwobrau Gwerin Cymru.
Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
Phyl Griffiths, Prif Swyddog, phyl@merthyrtudful.org
Cathy Boyce, Rhaglennydd Creadigol Cymunedol, cathyB@merthyrtudful.org
Gus Payne, Rheolwr Adeiladau, gus@merthyrtudful.org