Mae ensemble UPROAR o 16 o unawdwyr meistrolgar yn parhau i wthio ffiniau cerddoriaeth glasurol, gan berfformio cerddoriaeth newydd o Gymru ochr yn ochr â gwaith gan gyfansoddwyr rhyngwladol, nad yw eu gwaith yn cael ei berfformio yma’n aml.
Mae Concerto Siambr Ligeti (y mae ei gerddoriaeth yn ymddangos yn y ffilmiau 2001: A Space Odyssey a The Shining) yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghymru, fel y mae Hrím gan Anna Thorvaldsdottir, sy’n cyfleu grym elfennol yn rymus.
Ar gyfer y comisiynau newydd o Gymru, mae Litang Shao yn archwilio’r sain, egni ac emosiynau sy’n cael eu creu gan natur anrhagweladwy’r môr, gan ymgorffori elfennau cerddorol ac arlliw cerddoriaeth Tsieineaidd draddodiadol. Mae Ashley John Long yn cyfleu adleisiau a sibrydion bryniau mwyn tirwedd Cymru. Ac i gyferbynnu cymer David John Roche ei ysbrydoliaeth o sin roc a metel trwm y Cymoedd pan oedd yn tyfu.
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru